
Mae'n wir bleser gallu'ch cyflwyno i'n hadroddiad ymroddedig cyntaf erioed ar roi elusennol yng Nghymru. Mae bron pob un ohonom yn troi at elusen ar ryw adeg yn ein bywydau, yn aml heb i ni hyd yn oed sylweddoli ein bod yn defnyddio un o'r miloedd o elusennau sy'n gweithredu ledled Cymru. Mae ein helusennau yn ran o wead pwy ydym ni, maent yn sail i'n ffordd o fyw ac yn torri ar draws cymaint o'n gweithgareddau diwylliannol, cymdeithasol, crefyddol ac addysgol.
Mae ein hadroddiad cyntaf am Gymru yn ymuno â Scotland Giving wrth dorri allan a helpu i nodi tueddiadau haelioni ymhlith y Cymry. Heb fawr o syndod i unrhyw un sydd wedi treulio unrhyw amser yng Nghymru, mae'r adroddiad hwn yn manylu ar lefel o ymrwymiad i'r gymuned ac i helpu ein cymdogion, y gall pobl Cymru fod yn wir falch ohonynt. Ond nid yw'n rhywbeth y gall elusennau, gwleidyddion a chymunedau ehangach fyth ei gymryd yn ganiataol. Fel yr ydym wedi nodi ledled y Deyrnas Unedig, mae Rhoi Cymru yn darparu darlun i ni o roi sy'n cynnwys rhai mannau disglair o ran parodrwydd pobl Cymru i ymateb i apeliadau elusennol tymhorol yn fwy felly na'r DU gyfan, a'r lefel cyfranogiad cadarn mewn gweithgareddau elusennol neu gymdeithasol a gyflawnir gan y Cymry. Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi rhai mannau trafferthus fel cyfradd is o bobl sy'n hawlio'r credyd Rhodd Cymorth yng Nghymru nag mewn mannau eraill a symiau llai cyffredinol yn cael eu rhoi, sy'n fwyaf tebygol o adlewyrchu enillion cyfartalog is.
Ein gobaith yma yn CAF yw y bydd y gwybodaeth hwn yn helpu codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o rai o'r heriau sy'n wynebu elusennau, a hefyd yn cynorthwyo elusennau trwy nodi meysydd lle gallent gyfeirio adnoddau atynt er mwyn codi mwy fyth at achosion da.
Mae pobl yn rhoi oherwydd eu bod wedi'u hysbrydoli, oherwydd bod gwaith elusen yn eu cyffwrdd ac oherwydd eu bod yn gwybod bod eu rhoddion yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i gyflwyno'r achos ar ran ein helusennau, boed yn grwpiau bach yn ymgynnull mewn neuaddau pentref i fynd i'r afael ag angen lleol neu'n sefydliad cenedlaethol sy'n mynd i'r afael â materion eang. Yng Nghymru, mae elusennau'n darparu gwasanaethau amhrisiadwy, ond maen nhw hefyd yn dod â'n cymunedau at ei gilydd mewn ymgais i wneud y byd yn lle gwell. Ar adegau o ansicrwydd economaidd a gwleidyddol, mae'r clymau hynny'n bwysicach nag erioed ac mae'n werth ymladd i'w warchod.
Syr John Low
Prif Weithredwr
Charities Aid Foundation