Canfyddiadau manwl rhan 1

ffigur 1 RHOI CYMRU CAF 2019
    

Darlun cyffredinol o sut mae pobl yn cymryd rhan

Dangoswyd rhestr o ymddygiadau i bawb a gyfwelwyd a gofynnwyd a oeddent wedi gwneud unrhyw un o'r rhain yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf neu'r flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o gamau elusennol a chymdeithasol.

Ar lefel gyffredinol, mae tua naw o bob deg (89%) o bobl yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn o leiaf un weithred elusennol neu gymdeithasol dros y flwyddyn flaenorol. Mae hon yn gyfran debyg o'i chymharu â'r DU gyfan (87%).

Pan ofynnwyd iddynt am gymryd rhan yn y pedair wythnos ddiwethaf, dywedodd 67% eu bod wedi cymryd rhan, sy'n uwch na chyfartaledd y DU o 64%.

Byddwn yn edrych ar bob un o'r mesurau hyn yn fwy manwl yn y paragraffau dilynol.

  

Rhoi arian

Rhoi arian yw'r brif ffordd y mae pobl yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn gweithred elusennol neu gymdeithasol, gyda 59% yn honni eu bod wedi rhoi arian yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac ychydig llai na thraean (32%) yn honni eu bod wedi gwneud hynny yn y pedair wythnos ddiwethaf. Mae'r ddau ffigur hyn yn unol â chyfartaledd y DU o 57% a 31 % yn y drefn honno.

Honnodd ychydig llai na dwy ran o bump (37%) o bobl eu bod wedi noddi rhywun ar gyfer elusen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, tra bod 10% wedi noddi rhywun o fewn y pedair wythnos ddiwethaf. Mae'n ymddangos bod pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o noddi rhywun ar gyfer elusen nag ar draws y DU gyfan, lle'r oedd 32% ac 8% wedi gwneud hynny yn y drefn honno.

Y mis brig ar gyfer rhoi yng Nghymru oedd mis Tachwedd, pan honnodd 48% eu bod wedi rhoi arian i elusen. Er mai Tachwedd a Rhagfyr oedd y prif fisoedd ar gyfer rhoi ledled y DU gyfan, ni chofnododd yr un o'r misoedd hyn lefel mor uchel ag yng Nghymru ym mis Tachwedd (39% ar gyfer y DU gyfan). Mae ffigur mis Tachwedd yn cyd-fynd â nifer o ddigwyddiadau elusennol cenedlaethol mawr yn y cyfnod yn arwain at gyfweld, fel Plant Mewn Angen, Tashwedd a'r Apêl Pabi.

O'r rhai a roddodd arian i elusen, dywedodd 47% eu bod yn defnyddio Rhodd Cymorth ar eu rhodd, lefel is na'r DU gyfan (51 %). Gall hyn, o leiaf, fod yn rhannol oherwydd y lefel uwch o bobl yn rhoi trwy arian parod yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y gellid edrych arno gan y byddai'n fuddiol i elusennau ledled Cymru a thu hwnt i gynyddu'r defnydd o Rhodd Cymorth ymhellach.

Gwirfoddoli

Dywedodd un o bob chwech o bobl yng Nghymru (17%) eu bod wedi gwirfoddoli i elusen dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda 9% yn dweud eu bod wedi gwneud hynny yn ystod y pedair wythnos diwethaf. Mae'r ffigurau hyn yn gyson â'r DU gyfan. Er ei bod yn ymddangos bod merched yn fwy tebygol o fod wedi gwirfoddoli na dynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (18% o'i gymharu â 15%), nid yw hyn yn wahaniaeth sylweddol. Yn yr un modd â'r DU gyfan, mae gwirfoddoli'n fwyaf cyffredin ymhlith myfyrwyr amser llawn (28%), sy'n debygol oherwydd y lefel uwch o amser rhydd sydd ar gael, yn ogystal â'r anogaeth y mae ysgolion a phrifysgolion yn ei i wirfoddoli.

380x220_Volunteers

Rhoi nwyddau

Ar ôl rhoi arian, rhoi nwyddau yw'r ail fath fwyaf cyffredin o ymgysylltu ag elusennau.Honnodd 57% eu bod wedi rhoi nwyddau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a 27% yn y pedair wythnos ddiwethaf, y mae'r ddau ohonynt yn unol â'r DU gyfan.

Mae rhoi nwyddau yn gyffredin i raddau helaeth ymhlith pobl hŷn (39% o rai 65+ oed o'i gymharu â 7% o bobl 16-24 oed yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf) a merched (36% o'i gymharu â 19% o ddynion), sef yr un patrwm a welir yn ffigurau cyffredinol y DU.

Protestio a deisebu

Llofnodi deiseb yw'r trydydd gweithgaredd elusennol mwyaf poblogaidd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd dros hanner (52%) y rhai a gafodd eu cyfweld yng Nghymru yn 2018 wedi llofnodi deiseb yn y flwyddyn flaenorol tra bod 26% wedi gwneud hynny dros y pedair wythnos flaenorol. Mae'r ffigurau hyn ychydig yn uwch na'r rhai a gofnodwyd ar gyfer y DU gyfan lle'r oedd 49% wedi llofnodi deiseb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae merched yn fwy tebygol o fod wedi llofnodi deiseb na dynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (55% o'i gymharu â 49%), tra mai pobl 45-54 oed yw'r grŵp oedran lleiaf tebygol o fod wedi gwneud hynny (43% o'i gymharu â 52% ar gyfartaledd ledled Cymru).

Mae pobl ifanc 16-24 oed yn fwy tebygol o fynd i brotest (cyfartaledd o 10% o'i gymharu â 5%), ond dyma'r gweithgaredd elusennol lleiaf cyffredin i gymryd rhan ynddo ymhlith pawb y gofynnwyd amdanynt.

Pwy sy'n ymgysylltu fwyaf?

Yn gyffredinol, mae merched yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau elusennol neu gymdeithasol, gyda 73% wedi gwneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o gymharu â 63% o ddynion.

Ymhlith yr holl oedolion 65+, dim ond 7% sydd heb gymryd rhan mewn o leiaf un weithred elusennol neu gymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o gymharu â 15% o bobl 16-24 oed. Mae'r rhain eto yn debyg i'r ffigurau ar gyfer y DU gyfan.

ffigur 2 RHOI CYMRU CAF 2019

Amlder rhoi

Pan ofynnwyd iddynt pa mor aml y maent yn rhoi i elusen, mae dros hanner y bobl yng Nghymru yn nodi eu bod fel arfer yn eu rhoi i elusen o bryd i'w gilydd (53%), gyda chwarter arall (24%) yn rhoi bob mis. Mae un o bob ugain yn rhoi bob wythnos (5%).

Byddem yn diffinio 'rhoi rheolaidd' fel y rhai sy'n rhoi bob wythnos neu fis ac wrth edrych arnynt fel hyn, mae llai na thraean (29%) yn rhoi'n rheolaidd.  Mae rhoi rheolaidd ar ei uchaf ymhlith y rhai 65+, gyda dwy ran o bump (40%) yn dweud eu bod yn rhoi' n rheolaidd.

Mae dynion ddwywaith yn fwy tebygol na merched o ddweud eu bod yn anaml neu fyth yn rhoi i elusen (22% o'i gymharu â 10%) sy'n unol â chyfartaledd y DU (26% o'i gymharu â 13%).