Canfyddiadau manwl rhan 2

Cyfanswm a roddwyd

Rhoddwyd amcangyfrif o £454 miliwn i elusen gan y rhai sy'n byw yng Nghymru yn 2018. Mae hyn yn cymharu â chyfanswm ffigur y DU o £10.1 biliwn dros yr un cyfnod. Felly mae'r lefel yng Nghymru yn cyfrif am oddeutu 4.5% o'r rhoi unigol cyffredinol ledled y DU.

Mae'n bwysig nodi bod amcangyfrif Rhoi Cymru ar gyfer cyfanswm rhoi yn cael ei gyfrifo o roddion yr adrod­dwyd arnynt, fel y cawsant eu cofio a'u trosglwyddo gan gyfranogwyr unigol i'r arolwg, ac felly mae'n ddarostyngedig i ddibynadwyedd ymatebwyr, yn ogystal ag ystyriaethau eraill sy'n berthnasol i bob arolwg yn seiliedig ar sampl o boblogaeth yn hytrach na chyfrifiad.

Swm nodweddiadol a roddwyd

Y swm misol canolrif (1) a roddwyd gan roddwr yng Nghymru yn 2018, naill ai trwy roi neu noddi yn y pedair wythnos ddiwethaf, oedd £15, a'r swm cymedrig a roddwyd oedd £36. Mae'r ddau yn is na'r ffigurau ar gyfer y DU gyfan, lle'r oedd y canolrif yn £20 a'r cymedr yn £45. Mae hyn yn golygu, er bod niferoedd tebyg o bobl yn rhoi yng Nghymru ag ar draws y DU gyfan, mae pobl yng Nghymru yn rhoi symiau is.

Mae hyn yn debygol o fod, yn rhannol o leiaf, oherwydd lefelau is o gyflog cyfartalog yng Nghymru o'i gymharu â'r DU gyfan (£509 o enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer gweithwyr amser llawn o'i gymharu â chyfartaledd y DU o £569 yn 2018).

(1) Y Canolrif = gwerth canol yr holl symiau a roddir gan unigolion. Y Cymedr = swm cyfartalog a roddir ar draws pob unigolyn.


I beth mae pobl yn rhoi

Pan ofynnwyd i bobl pa faes achos yr oeddent wedi rhoi iddo yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, dangosir y pum prif achos yn Ffigur 3 isod:
   
Ffigur 3: Pa rai o'r achosion canlynol wnaethoch chi gyfrannu atynt?

ymchwil feddygol
Lles anifeiliaid
plant neu bobl ifanc
pobl ddigartref tai a lolochesi yn y du
cymorth tramor a iliniaru trychineb

Sylfaen: Pob oedolyn 16+ sydd wedi rhoi i elusen yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf (n=444)


Derbyniodd pedwar maes achos i gyd 20% neu uwch mewn cefnogaeth yn 2018: Ymchwil feddygol (30%), lles anifeiliaid (29%) plant a phobl ifanc (23%) a phobl ddigartref, tai a llochesi yn y DU (20%). Yna bu cwymp i'r pumed achos mwyaf, gyda 16% wedi rhoi i gymorth tramor a lliniaru trychineb. Yr achosion lleiaf poblogaidd a roddwyd iddynt gan y rheiny yng Nghymru yw chwaraeon a hamdden (1%), y celfyddydau (1%), ysgolion, colegau, prifysgolion ac addysg arall (5%) a phobl oedrannus (6%). Mae hwn eto yn batrwm tebyg i'r DU gyfan.