Mae Cronfa SE-Assist Cymru yn cynnig pecynnau cyllid cyfunol (rhan benthyciad 0% / rhan-grant) y gellir eu defnyddio i'ch helpu i dyfu, dod yn fwy cynaliadwy neu gynyddu gallu eich busnes. Mae hefyd yn cynnig mentora arbenigol i ganolbwyntio'ch cyfeiriad a'ch cynlluniau twf.
Mae SE-Assist ar gyfer mentrau cymdeithasol, yn ogystal ag elusennau entrepreneuraidd, sy'n diwallu angen cymdeithasol neu amgylcheddol lleol.
Mae Cronfa SE-Assist Cymru yn lansio am y pumed tro ym mis Mehefin 2021 ac mae ceisiadau ar agor tan 23 Gorffennaf 2021.
Rheolir SE-Assist Cymru gan CAF Venturesome, Legal & General a Chanolfan Cydweithredol Cymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Business in the Community a’r Institute of Directors.